Salmau 60
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd ar Susan‐eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.
60 O Dduw, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn. 2 Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu. 3 Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod. 4 Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela. 5 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. 6 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. 7 Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr. 8 Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i. 9 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom? 10 Onid tydi, Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd? 11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn. 12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.