Salmau 96
Beibl William Morgan
96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. 3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. 4 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. 5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. 6 Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. 7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 8 Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. 9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef. 10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.