Salmau 92
Beibl William Morgan
Salm neu Gân ar y dydd Saboth.
92 Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf: 2 A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau; 3 Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol. 4 Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf. 5 Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau. 6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn. 7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd. 8 Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd. 9 Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd. 10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir. 11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn. 12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus. 13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw. 14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant: 15 I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.