Diarhebion 9
Beibl William Morgan
9 Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn. 2 Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd. 3 Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas: 4 Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd, 5 Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais. 6 Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall. 7 Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf. 8 Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di. 9 Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall. 11 Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes. 12 Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi.
13 Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim: 14 Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas, 15 I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn: 16 Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy bynnag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho, 17 Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd. 18 Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.